{"id":1651,"date":"2026-11-20T10:34:00","date_gmt":"2026-11-20T10:34:00","guid":{"rendered":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/2026\/11\/20\/annerbyniol-y-bydd-bydwragedd-newydd-yn-cael-eu-gadael-heb-swyddi\/"},"modified":"2026-11-20T14:00:36","modified_gmt":"2026-11-20T14:00:36","slug":"annerbyniol-y-bydd-bydwragedd-newydd-yn-cael-eu-gadael-heb-swyddi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/2026\/11\/20\/annerbyniol-y-bydd-bydwragedd-newydd-yn-cael-eu-gadael-heb-swyddi\/","title":{"rendered":"&#8216;Annerbyniol y bydd bydwragedd newydd yn cael eu gadael heb swyddi&#8217;"},"content":{"rendered":"<div id=\"main-content\" data-testid=\"main-content\">\n<div spacing=\"6\">\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" alt=\"Megan\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/465\/cpsprodpb\/66c7\/live\/e2228de0-e4cd-11f1-99a1-253766e7ad8b.jpg\"  width=\"465\" height=\"391\"><\/picture><\/span><span role=\"text\"><span>Ffynhonnell y llun, <\/span>Coleg Brenhinol y Bydwragedd<\/span><\/p><figcaption><span>Disgrifiad o\u2019r llun, <\/span><\/p>\n<p>Mae Megan Lewis wedi graddio gyda dosbarth cyntaf ond yn methu cael swydd fel bydwraig<\/p>\n<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n<div data-testid=\"single-byline\" data-block=\"byline\">\n<p><span>Gan<\/span><span>Gwydion Edwards<\/span><\/p>\n<p><span>BBC Cymru Fyw<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p><b>Mae bydwragedd a fydd yn gobeithio graddio yn 2027 wedi cael gwybod y bydd llai o swyddi na&#8217;r disgwyl yn y broses recriwtio nesaf, yn \u00f4l Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM Cymru).<\/b><\/p>\n<p>Yn \u00f4l Megan Lewis o Gaerdydd, sy&#8217;n fyfyrwraig sydd newydd gymhwyso a heb gael swydd, mae&#8217;n &#8220;anodd deall y sefyllfa bresennol&#8221;.<\/p>\n<p>Y rheswm am hynny, meddai, oedd yr hyn &#8220;welais i ar brofiad gwaith&#8221;.<\/p>\n<p>&#8220;Erbyn fy nhrydedd flwyddyn, roeddwn i&#8217;n ymwybodol iawn o&#8217;r straen y mae gwasanaethau yn ei wynebu.<\/p>\n<p>&#8220;Roedd bydwragedd yn dweud wrthyn ni&#8217;n eu bod yn gwerthfawrogi cael myfyrwyr ar shifft, achos ein bod ni&#8217;n b\u00e2r arall o ddwylo i helpu gyda gofal.&#8221;<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img decoding=\"async\" alt=\"Julie Richards\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/533\/cpsprodpb\/dc20\/live\/d8035d40-e4c7-11f1-99a1-253766e7ad8b.jpg\"  width=\"533\" height=\"300\"><\/picture><\/span><span role=\"text\"><span>Ffynhonnell y llun, <\/span>Coleg Brenhinol y Bydwragedd<\/span><\/p><figcaption><span>Disgrifiad o\u2019r llun, <\/span><\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n argyfwng sy&#8217;n gwaethygu,&#8221; medd Julie Richards, cyfarwyddwr RCM Cymru<\/p>\n<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Dywedodd yr undeb fod Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi dweud wrth fyfyrwyr ddydd Iau na fydd y system recriwtio &#8211; oedd yn sicrhau bod pob bydwraig sydd newydd gymhwyso yng Nghymru yn derbyn swydd ar \u00f4l graddio &#8211; ar gael iddyn nhw, yn wahanol i flynyddoedd cynt.<\/p>\n<p>Mae AaGIC yn awdurdod arbennig gan y llywodraeth o fewn y gwasanaeth iechyd, sy&#8217;n arwain ar ddarparu addysg, hyfforddiant a datblygu i&#8217;r gweithlu iechyd.<\/p>\n<p>Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn &#8220;cydnabod y bydd ansicrwydd ynghylch cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn achosi pryder i fyfyrwyr bydwreigiaeth sy&#8217;n agos\u00e1u at gwblhau eu hastudiaethau&#8221;.<\/p>\n<p>&#8220;Er bod penderfyniadau recriwtio yn cael eu gwneud gan gyflogwyr unigol y GIG, rydym yn parhau i weithio&#8217;n agos gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), cyflogwyr GIG Cymru ac eraill, er mwyn deall pwysau a gofynion y gweithlu a chefnogi cyfleoedd cyflogaeth priodol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd newydd gymhwyso.&#8221;<\/p>\n<\/div>\n<div data-block=\"subheadline\">\n<p data-testid=\"subheadline\">\n<h2 id=\"Dyw-e-ddim-yn-gwneud-synnwyr\" tabindex=\"-1\"><span role=\"text\">&#8216;D&#8217;yw e&#8217; ddim yn gwneud synnwyr&#8217;<\/span><\/h2>\n<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>&#8220;Wrth gwrs, d&#8217;yw myfyrwyr ddim yn cymryd lle bydwragedd sydd wedi cofrestru,&#8221; ychwanegodd Megan Lewis.<\/p>\n<p>&#8220;Ond pan chi&#8217;n gweld pa mor galed mae&#8217;r staff yn gweithio, faint o bethau sydd ganddyn nhw i&#8217;w rheoli ar yr un pryd, a pha mor awyddus ydyn nhw i geisio rhoi&#8217;r amser a&#8217;r gofal y mae pob menyw yn ei haeddu &#8211; mae&#8217;n anodd deall pam nad oes yna swyddi ar gael i fydwragedd sydd newydd gymhwyso.<\/p>\n<p>&#8220;Ry&#8217;n ni&#8217;n gwybod bod gwasanaethau mamolaeth dan bwysau. Ry&#8217;n ni wedi gweld e&#8217;n hunain. <\/p>\n<p>&#8220;Felly, sut bod &#8216;na fydwragedd sy&#8217;n barod ac yn awyddus iawn i weithio, ond dim swyddi wedi&#8217;u hariannu ar eu cyfer? D&#8217;yw e&#8217; ddim yn gwneud synnwyr.&#8221;<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img decoding=\"async\" alt=\"Mam a'i phlentyn\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/3840\/cpsprodpb\/f2f5\/live\/bb08b9f0-e4b9-11f1-99a1-253766e7ad8b.jpg\"  width=\"3840\" height=\"2159.5660036166364\"><\/picture><\/span><span role=\"text\"><span>Ffynhonnell y llun, <\/span>Getty Images<\/span><\/p>\n<\/figure>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Rhwng graddedigion nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru, roedd bron i <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/erthyglau\/ce8kgx3j5weo\">400 heb swyddi yn y GIG<\/a> ym mis Mehefin, ar \u00f4l i&#8217;r broses gychwynnol o&#8217;u paru \u00e2 swyddi ddod i ben adeg hynny.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r undeb yn dweud y byddai gwrthod agor y system recriwtio arferol yn &#8220;ychwanegu&#8217;n sylweddol at y 66 o fydwragedd oedd newydd gymhwyso, na chafodd swyddi yn y broses recriwtio ddiwethaf yn yr haf a hynny er gwaethaf y ffaith bod diffyg staff yng ngwasanaethau mamolaeth y wlad a&#8217;u bod o dan bwysau aruthrol&#8221;.<\/p>\n<p>Ychwanegodd RCM Cymru eu bod ar ddeall y bydd nifer o swyddi mewn rhai byrddau iechyd, ond nad oes cadarnhad o ran pa rai a faint ohonyn nhw.<\/p>\n<p>&#8220;Nid ydy hynny&#8217;n cymryd unrhyw beth i ffwrdd o&#8217;r ffaith na fydd digon o swyddi yn dal i fod, i fydwragedd sydd newydd raddio,&#8221; meddai&#8217;r undeb.<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Yn \u00f4l cyfarwyddwr RCM Cymru, Julie Richards, mae&#8217;n &#8220;annerbyniol bod bydwragedd sydd newydd raddio, yn barod ac yn awyddus i weithio, yn cael eu gadael heb swydd i fynd iddi&#8221;.<\/p>\n<p>&#8220;Mae gennym wasanaeth mamolaeth sy&#8217;n wynebu pwysau o bob cyfeiriad &#8211; nid oes digon o staff yn yr unedau.&#8221;<\/p>\n<p>Mae hynny wedi &#8220;arwain at gau Canolfan Eni Tirion dros dro ac mae dau adolygiad annibynnol wedi codi pryderon difrifol ynghylch diogelwch a staffio&#8221;, meddai.<\/p>\n<p>&#8220;Bydd nifer y bydwragedd cymwys sydd heb swyddi&#8217;n sicr o gynyddu dros y misoedd nesaf, achos dydi&#8217;r llywodraeth ddim wedi dyrannu&#8217;r cyllid sydd ei angen ar wasanaethau mamolaeth yng Nghymru. <\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n argyfwng gwastraffu talent ac mae&#8217;r sefyllfa yn gwaethygu,&#8221; ychwanegodd Ms Richards.<\/p>\n<\/div>\n<div data-block=\"subheadline\">\n<p data-testid=\"subheadline\">\n<h2 id=\"Data-ein-hunain-yn-ddarlun-gwahanol-iawn\" tabindex=\"-1\"><span role=\"text\">&#8216;Data ein hunain yn ddarlun gwahanol iawn&#8217;<\/span><\/h2>\n<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Mae ffioedd dysgu myfyrwyr bydwreigiaeth yn cael eu talu gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ar yr amod eu bod yn ymrwymo i weithio yn y wlad am ddwy flynedd ar \u00f4l graddio.<\/p>\n<p>Mewn blynyddoedd cynt, roedd pob myfyriwr yn cael swydd trwy&#8217;r system recriwtio syml &#8216;<i>streamlining process<\/i>&#8216;, ond eleni dydi&#8217;r nifer llawn o swyddi ddim ar gael yn \u00f4l RCM Cymru.<\/p>\n<p>Mae AaGIC yn dweud mai&#8217;r rheswm am hynny ydy bod mwy o fydwragedd profiadol yn cael eu cadw &#8211; rhywbeth y mae&#8217;r coleg yn honni eu bod wedi &#8220;gwrthbrofi&#8221;.<\/p>\n<p>&#8220;Mae ein data Rhyddid Gwybodaeth ein hunain yn dangos darlun gwahanol iawn,&#8221; meddai Ms Richards ar ran RCM Cymru.<\/p>\n<p>&#8220;Mae cyfran y bydwragedd sy&#8217;n gadael o fewn eu dwy flynedd gyntaf o wasanaeth wedi dyblu a mwy dros gyfnod o bum mlynedd &#8211; mae&#8217;r nifer sy&#8217;n gadael wedi codi o 12.9% i 28.6%. <\/p>\n<p><i>Dilynwch Cymru Fyw ar <\/i><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/bbccymrufyw\"><i>Facebook<\/i><span>, dolen allanol<\/span><\/a><i>, <\/i><a href=\"https:\/\/x.com\/bbccymrufyw\"><i>X<\/i><span>, dolen allanol<\/span><\/a><i>, <\/i><a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/bbccymrufyw\"><i>Instagram<\/i><span>, dolen allanol<\/span><\/a><i> neu <\/i><a href=\"https:\/\/www.tiktok.com\/@bbccymrufyw\"><i>TikTok<\/i><span>, dolen allanol<\/span><\/a><i>. <\/i><\/p>\n<p><i>Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i <\/i><a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/mailto:cymrufyw@bbc.co.uk\"><i>cymrufyw@bbc.co.uk<\/i><span>, dolen allanol<\/span><\/a><i> .<\/i><\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/erthyglau\/c5ym4j306qzo\"><i>Lawrlwythwch yr ap<\/i><\/a><i> am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.<\/i><\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"topic-list\" data-block=\"topicList\">\n<p><h2 type=\"normal\">Pynciau cysylltiedig<\/h2>\n<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ffynhonnell y llun, Coleg Brenhinol y BydwrageddDisgrifiad o\u2019r llun, Mae Megan Lewis wedi graddio gyda dosbarth cyntaf ond yn methu cael swydd fel bydwraig GanGwydion Edwards BBC Cymru Fyw Mae bydwragedd a fydd yn gobeithio graddio yn 2027 wedi cael gwybod y bydd llai o swyddi na&#8217;r disgwyl yn y broses recriwtio nesaf, yn \u00f4l [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1745,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1651","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1651","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1651"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1651\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1744,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1651\/revisions\/1744"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1745"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1651"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1651"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1651"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}