{"id":1734,"date":"2026-11-20T13:51:00","date_gmt":"2026-11-20T13:51:00","guid":{"rendered":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/2026\/11\/20\/adolygiad-owain-henry-drama-epig-o-safon-uchel-ond-heb-air-o-gymraeg\/"},"modified":"2026-11-20T18:58:30","modified_gmt":"2026-11-20T18:58:30","slug":"adolygiad-owain-henry-drama-epig-o-safon-uchel-ond-heb-air-o-gymraeg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/2026\/11\/20\/adolygiad-owain-henry-drama-epig-o-safon-uchel-ond-heb-air-o-gymraeg\/","title":{"rendered":"Adolygiad Owain &#038; Henry: &#8216;Drama epig o safon uchel ond heb air o Gymraeg&#8217;"},"content":{"rendered":"<div id=\"main-content\" data-testid=\"main-content\">\n<div spacing=\"6\">\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img decoding=\"async\" alt=\"Owain a Henry\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/3840\/cpsprodpb\/a6f4\/live\/a8a5dd60-e4d7-11f1-ae38-71bf515761f1.jpg\"  width=\"3840\" height=\"2160.5248359887537\"><\/picture><\/span><span role=\"text\"><span>Ffynhonnell y llun, <\/span>Kirsten McTernan Photography<\/span><\/p>\n<\/figure>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p><b>Dros y bythefnos ddiwethaf mae pobl o bob cwr o&#8217;r wlad wedi heidio i Ganolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd er mwyn gwylio gwrthryfel Owain Glynd\u0175r ar lwyfan yn y ddrama <\/b><b><i>Owain &#038; Henry<\/i><\/b><b>.<\/b><\/p>\n<p>Yr actor o Bort Talbot, Michael Sheen, sy&#8217;n serennu fel Glynd\u0175r tra bod Nigel Barrett yn chwarae rhan Henry sef Harri&#8217;r IV, ar \u00f4l i&#8217;r actor gwreiddiol, Linus Roache, gamu&#8217;n \u00f4l o&#8217;r llwyfan oherwydd salwch.<\/p>\n<p>Yr awdur Megan Angharad Hunter aeth i wylio&#8217;r cyd-gynhyrchiad gan Canolfan Mileniwm Cymru a Welsh National Theatre ar ran Cymru Fyw.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Megan, roedd &#8220;yn ddrama epig o safon uchel&#8221;, a Michael Sheen &#8220;yn gwbl argyhoeddedig&#8221; fel Owain Glynd\u0175r, ond roedd hi&#8217;n &#8220;siomedig nad oedd yr un gair o Gymraeg&#8221;, a bod y sgript gan Gary Owen &#8220;yn teimlo&#8217;n hir ar brydiau&#8221;.<\/p>\n<p>Darllenwch ei hadolygiad yn llawn:<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img decoding=\"async\" alt=\"Megan Angharad Hunter\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/972\/cpsprodpb\/dc10\/live\/2e540250-e4e4-11f1-b039-c1944465024e.jpg\"  width=\"972\" height=\"547\"><\/picture><\/span><span role=\"text\"><span>Ffynhonnell y llun, <\/span>Megan Angharad Hunter<\/span><\/p><figcaption><span>Disgrifiad o\u2019r llun, <\/span><\/p>\n<p>Megan Angharad Hunter<\/p>\n<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n<div data-testid=\"single-byline\" data-block=\"byline\">\n<p><span>Gan<\/span><span>Megan Angharad Hunter<\/span><\/p>\n<p><span>Adolygydd BBC Cymru Fyw<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div data-block=\"subheadline\">\n<p data-testid=\"subheadline\">\n<h2 id=\"Drama-epig-o-safon-uchel\" tabindex=\"-1\"><span role=\"text\">&#8216;Drama epig o safon uchel&#8217;<\/span><\/h2>\n<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Mae 2026 wedi bod yn flwyddyn ddigyffelyb i hunaniaeth Gymreig: Plaid Cymru&#8217;n arwain y Senedd am y tro cyntaf, diddordeb mewn annibyniaeth ar gynnydd, Cymry&#8217;n llwyddo yn Hollywood ac ar y cae rygbi, a&#8217;r awch am ddram\u00e2u fel <i>Owain &#038; Henry<\/i> yn fwy nag erioed. <\/p>\n<p>Yn sicr, roedd gwylio drama epig, o safon uchel ym mhob cwr o&#8217;r cynhyrchiad &#8211; o&#8217;r cast i&#8217;r coreograffi, y goleuo i&#8217;r gwisgoedd &#8211; am hanes un o genedlaetholwyr pwysicaf hanes Cymru yn teimlo fel ochenaid fawr o ryddhad, a&#8217;r cyfan yn dod ynghyd yn ddeheuig iawn, diolch i gyd-gyfarwyddo Michael Sheen a Steffan Donnelly.<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img decoding=\"async\" alt=\"Owain a Henry\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/3840\/cpsprodpb\/28c4\/live\/48a02640-e4d8-11f1-ae38-71bf515761f1.jpg\"  width=\"3840\" height=\"2159.8508390304537\"><\/picture><\/span><span role=\"text\"><span>Ffynhonnell y llun, <\/span>Kirsten McTernan Photography<\/span><\/p>\n<\/figure>\n<\/div>\n<div data-block=\"subheadline\">\n<p data-testid=\"subheadline\">\n<h2 id=\"Michael-Sheen-yn-gwbl-argyhoeddedig-fel-Owain-Glynd\u0175r\" tabindex=\"-1\"><span role=\"text\">&#8216;Michael Sheen yn gwbl argyhoeddedig fel Owain Glynd\u0175r&#8217;<\/span><\/h2>\n<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>O&#8217;i fonolog agoriadol, roedd Sheen yn gwbl argyhoeddedig yn y brif ran, yn ein tywys ni&#8217;n hawdd ac yn hyderus trwy&#8217;r cynhyrchiad, ac roedd safon uchel gweddill y cast yn gyson trwyddi draw. <\/p>\n<p>Camodd Nigel Barrett i mewn i &#8216;sgidiau Linus Roache (sydd wedi gadael y cynhyrchiad yn sgil salwch) yn ddidrafferth, a pherfformiad Rakie Ayola fel Mared Ferch Dafydd, gwraig Glynd\u0175r, yn hen ddigon grymus i fynd benben \u00e2 Sheen. <\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img decoding=\"async\" alt=\"Owain a Henry\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/3840\/cpsprodpb\/bd61\/live\/d2316b10-e4df-11f1-99b6-a35a62fa4264.jpg\"  width=\"3840\" height=\"2540.1242236024846\"><\/picture><\/span><span role=\"text\"><span>Ffynhonnell y llun, <\/span>Marc Brenner<\/span><\/p>\n<\/figure>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Yn serennu hefyd oedd Ned Costello fel y Tywysog Hal, neu Henry V, yn portreadu cymeriad seicopathaidd, barus a phathetig a oedd yn gwneud i Frenhiniaeth Loegr ymddangos fel rhywbeth cwbl ffarsaidd.<\/p>\n<\/div>\n<div data-block=\"subheadline\">\n<p data-testid=\"subheadline\">\n<h2 id=\"Ail-hanner-yn-llai-llwyddiannus\" tabindex=\"-1\"><span role=\"text\">&#8216;Ail hanner yn llai llwyddiannus&#8217;<\/span><\/h2>\n<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Mae&#8217;r ddrama&#8217;n agor yn 1400, gyda Chymry&#8217;n cael eu gorfodi o&#8217;u cartrefi, Owain yn cynnig noddfa i&#8217;r ffoaduriaid yn Sycharth ac yn ei gael ei hun ar yr ochr arall i gyfraith Henry IV. <\/p>\n<p>Roedd yr hanner cyntaf yn rhuo tuag at ei anterth fel t\u00e2n yn ymledu wrth i&#8217;r gwrthryfel boethi, a&#8217;r golygfeydd mwyaf grymus i mi oedd y rhai a oedd yn manteisio&#8217;n llwyr ar y llwyfannu trawiadol a&#8217;r gerddoriaeth iasol gan Dyfan Jones. <\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img decoding=\"async\" alt=\"Owain a Henry\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/3840\/cpsprodpb\/7ac3\/live\/d5c12180-e4df-11f1-a094-5fdc692f3e33.jpg\"  width=\"3840\" height=\"2523.291770573566\"><\/picture><\/span><span role=\"text\"><span>Ffynhonnell y llun, <\/span>Marc Brenner<\/span><\/p>\n<\/figure>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Yn wir, mae&#8217;n bosib ei bod wedi cyrraedd ei huchafbwynt yn rhy gynnar; teimlais nad oedd y ddrama mor llwyddiannus yn yr ail hanner. <\/p>\n<p>Yn agos at y diwedd, mae golygfa ganu ddyrchafol, er arwynebol, efallai &#8211; awgrymir mai&#8217;r g\u00e2n, nid y cleddyf, ydi arf gorau Cymru. <\/p>\n<\/div>\n<div data-block=\"subheadline\">\n<p data-testid=\"subheadline\">\n<h2 id=\"Siomedig-nad-oedd-bron-yr-un-gair-o-Gymraeg\" tabindex=\"-1\"><span role=\"text\">&#8216;Siomedig nad oedd bron yr un gair o Gymraeg&#8217;<\/span><\/h2>\n<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Ond mae&#8217;r fonolog sy&#8217;n dilyn ychydig yn ddryslyd; ar \u00f4l dros ddwy awr o wylio Glynd\u0175r a&#8217;i ddilynwyr yn brwydro&#8217;n daer dros eu tir, mae Owain yn penderfynu camu i ffwrdd o faes y gad, ac yn dweud wrthym mai olrhain brawdoliaeth y dylai&#8217;r Cymry ei wneud; neges unoliaethol, bron, sy&#8217;n gwrth-ddweud y neges genedlaetholgar sy&#8217;n hydreiddio&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r ddrama. <\/p>\n<p>Collwyd cyfle hefyd i ddangos mawredd gweledigaeth Glynd\u0175r, gan gynnwys ei awydd i sefydlu prifysgolion yng Nghymru.<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img decoding=\"async\" alt=\"Owain a Henry\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/2560\/cpsprodpb\/c5db\/live\/96c7c760-e4d8-11f1-ae38-71bf515761f1.jpg\"  width=\"2560\" height=\"1440.1015873015874\"><\/picture><\/span><span role=\"text\"><span>Ffynhonnell y llun, <\/span>Kirsten McTernan Photography<\/span><\/p>\n<\/figure>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Roedd sgript Gary Owen yn teimlo&#8217;n rhy hir ar brydiau hefyd; roedd gormod o sgwrsio ysgafn a hiwmor, cymaint nes glastwreiddio rhai o&#8217;r golygfeydd mwyaf emosiynol. <\/p>\n<p>Wedi dweud hynny, roeddwn i a nifer fawr o&#8217;r gynulleidfa&#8217;n chwerthin yn aml, a deallaf yr angen i apelio at ystod eang o bobl, yn enwedig y rheiny sydd efallai ddim mor gyfarwydd efo hanes Glynd\u0175r. <\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img decoding=\"async\" alt=\"Owain &#038; Henry\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/1376\/cpsprodpb\/fd88\/live\/0b05bab0-e4e3-11f1-99a1-253766e7ad8b.jpg\"  width=\"1376\" height=\"2035.209235209235\"><\/picture><\/span><span role=\"text\"><span>Ffynhonnell y llun, <\/span>Kirsten McTernan Photography<\/span><\/p>\n<\/figure>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Dyma, efallai, pam benderfynwyd gadw&#8217;r sgript i gyd yn Saesneg, ac er fod Gary Owen yn pwysleisio sawl gwaith mai Cymraeg mae Owain a&#8217;r Cymry yn ei siarad, fel siaradwr Cymraeg, roeddwn yn teimlo&#8217;n chwithig ac ychydig yn siomedig nad oedd bron yr un gair o Gymraeg yma.<\/p>\n<\/div>\n<div data-block=\"subheadline\">\n<p data-testid=\"subheadline\">\n<h2 id=\"Gobeithio-mai-dim-ond-man-cychwyn-ydi-Owain-Henry\" tabindex=\"-1\"><span role=\"text\">&#8216;Gobeithio mai dim ond man cychwyn ydi O<i>wain &#038; Henry<\/i>&#8216;<\/span><\/h2>\n<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Ond mae rhai o&#8217;r llinellau gorau wedi aros gyda mi. Wrth i&#8217;r ddrama nes\u00e1u at y diwedd, mae Mared yn ein sicrhau y gall Glynd\u0175r yn sgil ei ddiflaniad fod yn unrhyw le, a bod yn unrhyw un ohonom. <\/p>\n<p>Meddai Owain nad ydi&#8217;r Cymry&#8217;n ymwybodol o farwolaeth eu cenedl gan ei fod yn <i>&#8220;death stretched out so thin we cannot see it for what it is,&#8221;<\/i> ac mai <i>&#8220;experiment&#8221; <\/i>ydi Lloegr, <i>&#8220;and it has failed&#8221;.<\/i><\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img decoding=\"async\" alt=\"Owain &#038; Henry\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/3840\/cpsprodpb\/e3e4\/live\/c1286d70-e4e2-11f1-a094-5fdc692f3e33.jpg\"  width=\"3840\" height=\"2516.3546187228767\"><\/picture><\/span><span role=\"text\"><span>Ffynhonnell y llun, <\/span>Marc Brenner<\/span><\/p>\n<\/figure>\n<\/div>\n<div data-testid=\"topic-list\" data-block=\"topicList\">\n<p><h2 type=\"normal\">Pynciau cysylltiedig<\/h2>\n<\/p>\n<\/div>\n<div data-block=\"promoList\">\n<h2 type=\"normal\">Hefyd o ddiddordeb<\/h2>\n<ul>\n<li><\/li>\n<li><\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan Photography Dros y bythefnos ddiwethaf mae pobl o bob cwr o&#8217;r wlad wedi heidio i Ganolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd er mwyn gwylio gwrthryfel Owain Glynd\u0175r ar lwyfan yn y ddrama Owain &#038; Henry. Yr actor o Bort Talbot, Michael Sheen, sy&#8217;n serennu fel Glynd\u0175r tra bod Nigel Barrett [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2010,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1734","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1734","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1734"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1734\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1835,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1734\/revisions\/1835"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2010"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1734"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1734"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1734"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}