{"id":1831,"date":"2026-11-20T14:34:00","date_gmt":"2026-11-20T14:34:00","guid":{"rendered":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/2026\/11\/20\/gwaith-atgyweirio-amgueddfeydd-i-gostio-miliynau-yn-fwy-nar-disgwyl\/"},"modified":"2026-11-20T19:58:33","modified_gmt":"2026-11-20T19:58:33","slug":"gwaith-atgyweirio-amgueddfeydd-i-gostio-miliynau-yn-fwy-nar-disgwyl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/2026\/11\/20\/gwaith-atgyweirio-amgueddfeydd-i-gostio-miliynau-yn-fwy-nar-disgwyl\/","title":{"rendered":"Gwaith atgyweirio amgueddfeydd i gostio miliynau yn fwy na&#8217;r disgwyl"},"content":{"rendered":"<div><main id=\"main-content\" data-testid=\"main-content\"><\/p>\n<div spacing=\"6\">\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" alt=\"Gwaith yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, fis Medi 2026\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/1920\/cpsprodpb\/d6b9\/live\/7fc59f50-e4d9-11f1-99b6-a35a62fa4264.jpg\"  width=\"1920\" height=\"1080\"><\/picture><\/span><\/p><figcaption><span>Disgrifiad o\u2019r llun, <\/span><\/p>\n<p>Mae disgwyl i&#8217;r gwaith atgyweirio yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis gael ei gwblhau yn 2028<\/p>\n<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n<div data-block=\"byline\">\n<p><span>Gan<\/span><span><span>Rob Thomas<\/span><span>BBC Cymru<\/span><\/span><span><span>\u00a0ac\u00a0<\/span><span>Ifan Ywain<\/span><span>BBC Cymru Fyw<\/span><\/span><\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p><b>Mae disgwyl i&#8217;r gwaith atgyweirio yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis a&#8217;r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd gostio miliynau yn fwy na&#8217;r disgwyl.<\/b><\/p>\n<p>Yr amcangyfrif gwreiddiol oedd y byddai&#8217;r <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/erthyglau\/ckgw34y4p77o\">gwaith yn yr amgueddfa lechi<\/a> yn costio \u00a325m, ond erbyn hyn mae disgwyl y bydd y ffigwr hwnnw&#8217;n codi i \u00a330m.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Prif Weithredwr Amgueddfeydd Cymru, Jane Richardson, fe fydd gwaith cynnal a chadw yn yr Amgueddfa Genedlaethol hefyd yn costio <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/erthyglau\/c75gn1q4z5yo\">&#8220;lot mwy&#8221; na&#8217;r amcangyfrif gwreiddiol o \u00a313m.<\/a><\/p>\n<p>Ond er gwaetha&#8217;r cynnydd mewn costau, mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi gwrthod awgrym y byddai pris mynediad yn cael ei gyflwyno ar y safleoedd.<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Fe wnaeth yr amgueddfa yn Llanberis gau fis Tachwedd 2024 er mwyn gwneud gwaith adnewyddu ac ailddatblygu gwerth \u00a321m.<\/p>\n<p>Y bwriad yw gwella&#8217;r adeiladau a&#8217;r profiad i ymwelwyr &#8211; gan gynnwys cael caffi newydd, gofod arddangos a chanolfan addysgu a dehongli.<\/p>\n<p>Ar y pryd roedd disgwyl i&#8217;r gwaith gymryd dwy flynedd gyda&#8217;r lleoliad yn ailagor ar ddiwedd 2026 neu yn gynnar yn 2027 ond y disgwyl bellach yw y bydd ar gau tan 2028.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd bellach mewn &#8220;cyflwr difrifol&#8221;, yn \u00f4l Ms Richardson.<\/p>\n<p>Mewn cyfweliad blaenorol \u00e2&#8217;r BBC, dywedodd fod gwerth \u00a313m o waith angen ei wneud ar frys, ond y <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/erthyglau\/c75gn1q4z5yo\">gallai&#8217;r holl waith gostio \u00a343m<\/a>.<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img decoding=\"async\" alt=\"Jane Richardson\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/3840\/cpsprodpb\/99f5\/live\/3e07ad50-e4da-11f1-99b6-a35a62fa4264.jpg\"  width=\"3840\" height=\"2159.3322203672788\"><\/picture><\/span><\/p><figcaption><span>Disgrifiad o\u2019r llun, <\/span><\/p>\n<p>Mae yna &#8220;waith critigol sydd angen ei wneud ar frys&#8221; ar safle&#8217;r Amgueddfa Genedlaethol, yn \u00f4l Jane Richardson<\/p>\n<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Mae Ms Richardson yn dweud ei bod hi&#8217;n &#8220;rhy fuan&#8221; i ddweud be fydd effaith cyllideb gyntaf Plaid Cymru ar ddyfodol Amgueddfa Cymru.<\/p>\n<p>Esboniodd nad oes newid o ran yr arian y maen nhw&#8217;n ei dderbyn, ond ei bod hi a&#8217;i th\u00eem yn dal i bori drwy&#8217;r ffigyrau er mwyn deall y sefyllfa yn llawn.<\/p>\n<p>Wrth ymateb i gwestiwn am y buddsoddiad sydd ei angen yn Amgueddfa Cymru, dywedodd: &#8220;Rydyn ni dal yn y broses o geisio deall beth yn union sydd angen ei wneud.<\/p>\n<p>&#8220;Ry&#8217;n ni&#8217;n datblygu achos busnes fydd yn edrych ar faint o waith sydd angen ei wneud.&#8221;<\/p>\n<p>Esboniodd na fyddai&#8217;r broses honno wedi&#8217;i chwblhau tan ganol y flwyddyn nesaf.<\/p>\n<\/div>\n<div data-block=\"subheadline\">\n<p data-testid=\"subheadline\">\n<h2 id=\"Cau-ar-fyr-rybudd-wastad-yn-bosibilrwydd\" tabindex=\"-1\"><span role=\"text\">Cau ar fyr rybudd &#8216;wastad yn bosibilrwydd&#8217;<\/span><\/h2>\n<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Ychwanegodd Ms Richardson fod yna &#8220;waith critigol sydd angen ei wneud ar frys&#8221; ar adeilad yr Amgueddfa Genedlaethol.<\/p>\n<p>Er nad oedd yn fodlon rhoi ffigwr ar gyfer yr holl waith atgyweirio tebygol, dywedodd y byddai cost y gwaith adfer hanfodol yn &#8220;llawer mwy&#8221; na&#8217;r amcangyfrif gwreiddiol o \u00a313m.<\/p>\n<p>Fe wnaeth hi hefyd wrthod diystyru&#8217;r posibilrwydd o orfod cau&#8217;r safle i&#8217;r cyhoedd ar fyr rybudd.<\/p>\n<p>&#8220;Mae hynny wastad yn bosibilrwydd. Mae&#8217;n rhywbeth sy&#8217;n cael ei ystyried fel risg posib, ac mae cynllun gyda ni rhag ofn bod hynny yn digwydd.<\/p>\n<p>&#8220;Fedra i ddim dweud na fyddai hynny&#8217;n digwydd, yr oll fedra i ddweud yw ei fod o&#8217;n rhywbeth &#8216;dan ni&#8217;n gadw yng nghefn ein meddyliau.&#8221;<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img decoding=\"async\" alt=\"Helen Goddard\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/1920\/cpsprodpb\/f220\/live\/b3c7ec20-e4ea-11f1-99b6-a35a62fa4264.jpg\"  width=\"1920\" height=\"1080\"><\/picture><\/span><\/p><figcaption><span>Disgrifiad o\u2019r llun, <\/span><\/p>\n<p>Nid oedd y cynnydd ym mhris y gwaith atgyweirio yn Llanberis yn syndod i Helen Goddard<\/p>\n<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Yn Llanberis, dywedodd cyfarwyddwr y prosiect yn yr Amgueddfa Lechi nad oedd y cynnydd mewn costau yn syndod mewn gwirionedd.<\/p>\n<p>&#8220;Gydag unrhyw brosiect cadwraeth fel hyn, unwaith &#8216;da chi&#8217;n dechrau&#8217;r gwaith&#8230; dyna pryd mae modd deall faint o waith sydd wir ei angen,&#8221; meddai Helen Goddard.<\/p>\n<p>Fe ddisgrifiodd hi&#8217;r gwaith cadwraeth fel proses &#8220;fforensig&#8221;.<\/p>\n<p>Ychwanegodd y byddai&#8217;r gwaith wedi ei gwblhau yn 2028, ond ei bod hi&#8217;n rhy fuan i gadarnhau os mai yn y gwanwyn, yr haf, neu&#8217;r hydref fyddai hynny.<\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"image\" data-block=\"image\">\n<figure>\n<p><span><picture><source  type=\"image\/webp\"><img decoding=\"async\" alt=\"Heledd Fychan\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/ichef.bbci.co.uk\/ace\/standard\/976\/cpsprodpb\/5ee7\/live\/c4538f50-e4da-11f1-99a1-253766e7ad8b.jpg\"  width=\"976\" height=\"549\"><\/picture><\/span><span role=\"text\"><span>Ffynhonnell y llun, <\/span>Plaid Cymru<\/span><\/p><figcaption><span>Disgrifiad o\u2019r llun, <\/span><\/p>\n<p>Dywedodd Heledd Fychan fod cynnig mynediad am ddim i&#8217;r safleoedd hyn yn &#8220;flaenoriaeth&#8221; i&#8217;r llywodraeth<\/p>\n<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n<div data-testid=\"rich-text\" data-block=\"text\">\n<p>Yn ystod ymweliad \u00e2&#8217;r Amgueddfa Lechi yn Llanberis ddydd Gwener, fe wnaeth y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, gyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o \u00a32.4m yn y cynllun i atgyweirio&#8217;r safle.<\/p>\n<p>&#8220;Fel llywodraeth rydyn ni wedi etifeddu sefyllfa sydd yn gwbl annerbyniol &#8211; nid oedd cynllun i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r gwaith cynnal a chadw sydd ei angen ar adeiladau hanesyddol yma yng Nghymru,&#8221; meddai.<\/p>\n<p>&#8220;Dyna pam rydyn ni&#8217;n rhoi cynllun ar waith drwy weithio yn agos gydag Amgueddfa Cymru a&#8217;r Llyfrgell Genedlaethol.<\/p>\n<p>&#8220;Ry&#8217;n ni wir eisiau deall maint y buddsoddiad sydd ei angen, a gwybod sut y gallwn ni gydweithio i sicrhau&#8217;r buddsoddiad yna yn y dyfodol.&#8221;<\/p>\n<p>Ychwanegodd nad oedd y llywodraeth yn ystyried codi pris mynediad ar y safleoedd hyn.<\/p>\n<p>&#8220;Mae mynediad am ddim wedi bod yn llwyddiant ysgubol yma yng Nghymru.<\/p>\n<p>&#8220;Roedd ein maniffesto yn dweud ein bod am barhau gyda hynny. Mae mynediad am ddim yn flaenoriaeth i&#8217;r llywodraeth yma.&#8221;<\/p>\n<p><i>Dilynwch Cymru Fyw ar <\/i><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/bbccymrufyw\"><i>Facebook<\/i><span>, dolen allanol<\/span><\/a><i>, <\/i><a href=\"https:\/\/x.com\/bbccymrufyw\"><i>X<\/i><span>, dolen allanol<\/span><\/a><i>, <\/i><a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/bbccymrufyw\"><i>Instagram<\/i><span>, dolen allanol<\/span><\/a><i> neu <\/i><a href=\"https:\/\/www.tiktok.com\/@bbccymrufyw\"><i>TikTok<\/i><span>, dolen allanol<\/span><\/a><i>. <\/i><\/p>\n<p><i>Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i <\/i><a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/mailto:cymrufyw@bbc.co.uk\"><i>cymrufyw@bbc.co.uk<\/i><span>, dolen allanol<\/span><\/a><i> .<\/i><\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/erthyglau\/c5ym4j306qzo\"><i>Lawrlwythwch yr ap<\/i><\/a><i> am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.<\/i><\/p>\n<\/div>\n<div data-testid=\"topic-list\" data-block=\"topicList\">\n<p><h2 type=\"normal\">Pynciau cysylltiedig<\/h2>\n<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<p><\/main><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Disgrifiad o\u2019r llun, Mae disgwyl i&#8217;r gwaith atgyweirio yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis gael ei gwblhau yn 2028 GanRob ThomasBBC Cymru\u00a0ac\u00a0Ifan YwainBBC Cymru Fyw Mae disgwyl i&#8217;r gwaith atgyweirio yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis a&#8217;r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd gostio miliynau yn fwy na&#8217;r disgwyl. Yr amcangyfrif gwreiddiol oedd y byddai&#8217;r gwaith yn yr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2074,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1831","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1831","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1831"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1831\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1924,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1831\/revisions\/1924"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2074"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1831"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1831"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cockney.lol\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1831"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}