
Mae disgwyl i’r gwaith atgyweirio yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis gael ei gwblhau yn 2028
GanRob ThomasBBC Cymru ac Ifan YwainBBC Cymru Fyw
Mae disgwyl i’r gwaith atgyweirio yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis a’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd gostio miliynau yn fwy na’r disgwyl.
Yr amcangyfrif gwreiddiol oedd y byddai’r gwaith yn yr amgueddfa lechi yn costio £25m, ond erbyn hyn mae disgwyl y bydd y ffigwr hwnnw’n codi i £30m.
Yn ôl Prif Weithredwr Amgueddfeydd Cymru, Jane Richardson, fe fydd gwaith cynnal a chadw yn yr Amgueddfa Genedlaethol hefyd yn costio “lot mwy” na’r amcangyfrif gwreiddiol o £13m.
Ond er gwaetha’r cynnydd mewn costau, mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi gwrthod awgrym y byddai pris mynediad yn cael ei gyflwyno ar y safleoedd.
Fe wnaeth yr amgueddfa yn Llanberis gau fis Tachwedd 2024 er mwyn gwneud gwaith adnewyddu ac ailddatblygu gwerth £21m.
Y bwriad yw gwella’r adeiladau a’r profiad i ymwelwyr – gan gynnwys cael caffi newydd, gofod arddangos a chanolfan addysgu a dehongli.
Ar y pryd roedd disgwyl i’r gwaith gymryd dwy flynedd gyda’r lleoliad yn ailagor ar ddiwedd 2026 neu yn gynnar yn 2027 ond y disgwyl bellach yw y bydd ar gau tan 2028.
Mae’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd bellach mewn “cyflwr difrifol”, yn ôl Ms Richardson.
Mewn cyfweliad blaenorol â’r BBC, dywedodd fod gwerth £13m o waith angen ei wneud ar frys, ond y gallai’r holl waith gostio £43m.

Mae yna “waith critigol sydd angen ei wneud ar frys” ar safle’r Amgueddfa Genedlaethol, yn ôl Jane Richardson
Mae Ms Richardson yn dweud ei bod hi’n “rhy fuan” i ddweud be fydd effaith cyllideb gyntaf Plaid Cymru ar ddyfodol Amgueddfa Cymru.
Esboniodd nad oes newid o ran yr arian y maen nhw’n ei dderbyn, ond ei bod hi a’i thîm yn dal i bori drwy’r ffigyrau er mwyn deall y sefyllfa yn llawn.
Wrth ymateb i gwestiwn am y buddsoddiad sydd ei angen yn Amgueddfa Cymru, dywedodd: “Rydyn ni dal yn y broses o geisio deall beth yn union sydd angen ei wneud.
“Ry’n ni’n datblygu achos busnes fydd yn edrych ar faint o waith sydd angen ei wneud.”
Esboniodd na fyddai’r broses honno wedi’i chwblhau tan ganol y flwyddyn nesaf.
Cau ar fyr rybudd ‘wastad yn bosibilrwydd’
Ychwanegodd Ms Richardson fod yna “waith critigol sydd angen ei wneud ar frys” ar adeilad yr Amgueddfa Genedlaethol.
Er nad oedd yn fodlon rhoi ffigwr ar gyfer yr holl waith atgyweirio tebygol, dywedodd y byddai cost y gwaith adfer hanfodol yn “llawer mwy” na’r amcangyfrif gwreiddiol o £13m.
Fe wnaeth hi hefyd wrthod diystyru’r posibilrwydd o orfod cau’r safle i’r cyhoedd ar fyr rybudd.
“Mae hynny wastad yn bosibilrwydd. Mae’n rhywbeth sy’n cael ei ystyried fel risg posib, ac mae cynllun gyda ni rhag ofn bod hynny yn digwydd.
“Fedra i ddim dweud na fyddai hynny’n digwydd, yr oll fedra i ddweud yw ei fod o’n rhywbeth ‘dan ni’n gadw yng nghefn ein meddyliau.”

Nid oedd y cynnydd ym mhris y gwaith atgyweirio yn Llanberis yn syndod i Helen Goddard
Yn Llanberis, dywedodd cyfarwyddwr y prosiect yn yr Amgueddfa Lechi nad oedd y cynnydd mewn costau yn syndod mewn gwirionedd.
“Gydag unrhyw brosiect cadwraeth fel hyn, unwaith ‘da chi’n dechrau’r gwaith… dyna pryd mae modd deall faint o waith sydd wir ei angen,” meddai Helen Goddard.
Fe ddisgrifiodd hi’r gwaith cadwraeth fel proses “fforensig”.
Ychwanegodd y byddai’r gwaith wedi ei gwblhau yn 2028, ond ei bod hi’n rhy fuan i gadarnhau os mai yn y gwanwyn, yr haf, neu’r hydref fyddai hynny.

Dywedodd Heledd Fychan fod cynnig mynediad am ddim i’r safleoedd hyn yn “flaenoriaeth” i’r llywodraeth
Yn ystod ymweliad â’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis ddydd Gwener, fe wnaeth y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, gyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £2.4m yn y cynllun i atgyweirio’r safle.
“Fel llywodraeth rydyn ni wedi etifeddu sefyllfa sydd yn gwbl annerbyniol – nid oedd cynllun i fynd i’r afael â’r gwaith cynnal a chadw sydd ei angen ar adeiladau hanesyddol yma yng Nghymru,” meddai.
“Dyna pam rydyn ni’n rhoi cynllun ar waith drwy weithio yn agos gydag Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol.
“Ry’n ni wir eisiau deall maint y buddsoddiad sydd ei angen, a gwybod sut y gallwn ni gydweithio i sicrhau’r buddsoddiad yna yn y dyfodol.”
Ychwanegodd nad oedd y llywodraeth yn ystyried codi pris mynediad ar y safleoedd hyn.
“Mae mynediad am ddim wedi bod yn llwyddiant ysgubol yma yng Nghymru.
“Roedd ein maniffesto yn dweud ein bod am barhau gyda hynny. Mae mynediad am ddim yn flaenoriaeth i’r llywodraeth yma.”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.


